Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip
 Cc Carwyn Jones AC, Prif Weinidog; a 
 Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

12 Rhagfyr 2017

Annwyl Julie

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

Gwyddoch fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Ers dechrau arno, mae’r Pwyllgor wedi culhau cwmpas yr ymchwiliad i ganolbwyntio ar effaith Brexit ar hawliau dynol.

Yn ei gyfarfod ar 19 Hydref bu’r Pwyllgor yn ystyried y trafodaethau ar ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a chlywsom gan Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cytunodd y Pwyllgor ar gyfres o egwyddorion craidd y credwn y dylid cydymffurfio â nhw yn ystod y broses Brexit mewn perthynas â hawliau dynol. Byddwn yn monitro cynnydd yn ôl yr egwyddorion hyn a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n pwyllgorau seneddol cyfatebol ar draws y DU ar y materion hyn.

Yr egwyddorion craidd yw:

-     ni fydd unrhyw atchweliad i’r amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol sydd gennym yma ym Mhrydain ar ôl i ni adael yr UE;

-     dylai Cymru sefydlu mecanwaith ffurfiol i olrhain datblygiadau yn y dyfodol o ran hawliau dynol a chydraddoldeb yn yr UE, i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn elwa o'r un lefel o ddiogelwch â dinasyddion yr UE; a

-     dylai Cymru barhau i fod yn arweinydd byd-eang ym maes hawliau dynol, ac ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i gau unrhyw fylchau o ran hawliau ac amddiffyniad os nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny (lle bo modd).

Rydym o'r farn bod yn rhaid cadw'r Siarter Hawliau Sylfaenol mewn rhyw ffurf ar ôl ymadael â’r UE. Croesawn y datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ar 24 Hydref[1] a oedd yn cefnogi'r ymdrechion i sicrhau y bydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn parhau i barchu'r Siarter ar ôl Brexit. Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyhoeddi'r dadansoddiad o sut y bydd hawliau'r Siarter yn cael eu diogelu ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

I gynorthwyo i lywio ein gwaith, byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ddarparu:

-     unrhyw ddadansoddiad sydd ar gael ar y lefel bresennol o arian yr UE sy’n ariannu prosiectau’n ymwneud â hawliau dynol yng Nghymru;

-     gwybodaeth am y gwaith a wnaed hyd yma i ystyried ffynonellau arian eraill ar gyfer y prosiectau hyn;

-     y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yn arbennig yn ymwneud â hawliau dynol a chydraddoldeb; a

-     gwybodaeth am unrhyw drafodaethau yr ydych wedi’u cael â’r UE am warchod hawliau dynol yn ystod y broses o ymadael â’r UE, ac wedi hynny.

Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, ac at ein pwyllgorau cyfatebol ar draws y Deyrnas Unedig am y mater hwn.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych maes o law, a byddaf yn ddiolchgar am ymateb erbyn dydd Gwener 26 Ionawr 2018.

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

 



[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Cyfarfod Llawn, Eitem 3, 11 Hydref 2016